P-04- 579 Adfer cyllid ar gyfer monitro Gwylogod Ynys
Sgomer
Manylion
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi torri’r cyllid
blynyddol o £12,000 y mae’n ei ddarparu ar gyfer y
gwaith sy’n mynd rhagddo o fonitro Gwylogod Ynys Sgomer.
Mae’r astudiaeth hon yn un hynod o bwysig sy’n rhoi
mewnwelediad gwerthfawr i fywyd adar môr a’r hyn
sy’n effeithio ar eu poblogaethau. Nid yn unig yw dod â
set ddata sydd wedi cael ei chasglu cyhyd (ac sydd, felly, yn
werthfawr) i ben yn drueni, ond ni allai’r toriad fod wedi
dod ar adeg waeth, o ystyried effaith enfawr y stormydd diweddar ar
boblogaethau adar môr (gyda 25,000 o farwolaethau ar hyn o
bryd, a disgwylir i’r rhif hwnnw gynyddu). Mae hwn yn
benderfyniad gwael iawn gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a hoffem ei
weld yn cael ei ddiwygio.
Prif ddeisebydd Cardiff University Ornithological Society
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
23 Medi 2014
Nifer y llofnodion: Deiseb gysylltiedig 1,687 o llofnodion